Cynllun Bridio Defaid Suffolk Bridfa Cyf.

Ddoe… heddiw… ac yfory? Mae diadell BRIDFA wedi dangos cynnydd trwy gyson wella’i mynegir wyna cyfartalog dros y naw mlynedd diwethaf i 317 pwynt.

Suffolk BreedTrwy ddod yn aelod o Gynllun Cyfeirnod Hyrddod Suffolk yn 1994, cafwyd gwared â nifer o rwystrau technegol a oedd yn amharu ar welliannau genetig, gan alluogi priodoleddau’r hyrddod â’r mynegrifau uchafi gael eu trosglwyddo i’r ddiadell trwy semenu artiffisial. Mesurir y mynegrif unigol ar sail cyfradd twf, braster y cefn, a thrwch cyhyr llygad. Yn y blynyddoedd cynnar, defnyddiwyd rhaglen fridio gylchol, pan gadwyd pedwar neu bump o hyrddod i’w defnyddio gyda theuluoedd nad oedd yn perthyn. Ers 1994, yn ogystal â defnyddio semen o ddau neu dri o Hyrddod Cyfeirnod, defnyddiwyd yr hwrdd cartref â’r cyfeirnod uchaf, hefyd.

Ar hyn o bryd, mae’r ddiadell yn arbenigo mewn gwerthu hyrddod blwydd mynegrifuchel sydd ag ymwrthedd i glefyd y crafu yn arwerthiant blynyddol cynnar y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol yn Llanfair-ym-Muallt ym mis Awst bob blwyddyn. Yn arwerthiannau 2000 a 2002, hyrddod o’r ddiadell a gafodd y pris cyfartalog uchaf am grŵp o hyrddod – pan werthwyd 15 o hyrddod am £525 yr un ar gyfartaledd. Mae’r hyrddod eraill, mamogiaid cyfoen ac ŵyn benyw yn cael eu gwerthu’n breifat oddi ar y fferm. Mae semen wedi rhewi i’w ddefnyddio yn y DG a thramor ar gael trwy CBS Technologies.

Sefydlwyd Prosiect BRIDFA yn 1990 gan 32 o fridwyr Suffolk a gyfrannodd gyfanswm o 46 o famogiaid i’r cynllun gyda’r amcan o gynhyrchu hyrddod terfynol a fyddai’n cynhyrchu ŵyn a fyddai’n tyfu’n gyflymach gyda gwell cyhyredd a llai o fraster ar gyfer y cynhyrchwr sy’n pesgi ŵyn. Yn ogystal â sefydlu’r rhaglen barhaus hon, llwyddwyd cael Statws Ymwrthedd i Glefyd y Crafu i’r ddiadell.

Trwy wella potensial genetig a statws iechyd diadell BRIDFA yn barhaus a chyfuno hyn â dewis anifeiliaid o deip y brid, bydd cynhyrchwyr pedigri a masnachol yn si ŵr o gael mantais farchnata wrth ddenu cwsmeriaid ar gyfer eu cynnyrch yn y dyfodol.

RHOWCH Y GORAU I’R GAMBLO
WRTH FRIDIO...
PRYNWCH Y GORAU GAN BRIDFA

 
 

Classifieds

Suffolk yearling ram

50% British : 50% NZ. Neutral fat figure.

Offered for sale at Aberystwyth University sale on 13th August

Click here to see more adverts for Suffolk