Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah

Beulah Sheep BreedSefydlwyd Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah yn 1979 gan grŵp o ffermwyr Cymreig blaengar a gyflenwodd 100 o famogiaid sylfaen dwyflwydd a theirblwydd oed o’r ansawdd gorau i fod yn ddiadell gnewyllol ganolog i Gynllun Grŵp Bridio Defaid Penfrith Beulah. Cafodd cofnodi perfformiad a gwelliannau genetig eu canolbwyntio yn y ddiadell gnewyllol ganolog
gaeedig, gyda’r bwriad o gyflenwi hyrddod â rhinweddau genetig uchel yn ôl i’r diadelloedd cyfrannog. Erbyn hyn mae’r ddiadell yn gyson yn cynnwys 120 o famogiaid bridio ynghyd â 35 o ŵyn benyw cyfnewid.

Bu modd cael ffyrdd eraill o gyflawni gwelliannau genetig mewn diadelloedd cyfrannog oherwydd datblygiadau diweddar mewn gwerthusiadau genetig gan ddefnyddio BLUP, a chyfeirnodi hyrddod yn enwedig. Felly, sefydlwyd Cynllun Cyfeirnod Hyrddod ar gyfer y brid Beulah yn 1996. Roedd diadell Llanarth yn aelod cychwynnol a chyflenwodd y ddau hwrdd cyfeirnod-uchel cyntaf ar gyfer y cynllun. Defnyddir Cyfeirnod Mynydd Cymru yn sail ar gyfer y dewis; mae hwn yn gyfeirnod sy’n cydbwyso rhinweddau mamol â gwelliannau twf a nodweddion carcas. Ar yr un pryd, cymerir gofal mawr i gadw teip y brid. Ers ei sefydlu, mae aelodau Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah wedi gwneud mwy o gynnydd o ran gwella rhinweddau genetig eu defaid nag unrhyw frid arall yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn trwy lynu wrth yr egwyddorion pwysig o ddewis hyrddod cyfnewid yn bennaf ar sail cyfeirnod, ond eto gan wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod yn deip brid da.

Dros sawl blwyddyn, cafodd yr holl hyrddod cyfeirnod eu genoteipio ar gyfer clefyd y crafu er mwyn gofalu fod ganddynt ymwrthedd i glefyd y crafu a chafodd hyn ei ymestyn i famogiaid bridio yn 2001 fel rhan o Gynllun Genoteipio Mamogiaid Cymru (WEGS 1). Dim ond y genoteipiau â’r ymwrthedd gorau (Grwpiau 1 a 2) a gafodd eu cadw ar gyfer bridio, ac erbyn hyn mae’r ddiadell yn aelod hefyd o WEGS 2 a Chynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu.

Mae’r ddiadell yn dal i chwarae rhan bwysig yn y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod oherwydd fe’i defnyddir ar gyfer profion epil ar 6 oen hwrdd cyfeirnod-uchel wedi’u dewis o ddiadelloedd yr aelodau fel hyrddod bridio posibl ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Felly, mae gan y ddau hwrdd cyfeirnod a ddewisir yn y pen draw o’r gronfa hon ddata epil ar gael i wneud eu gwerthusiad genetig yn fwy cywir, ac felly yn cyflymu cyfraddau twf genetig yn niadelloedd yr aelodau. Dim ond hyrddod cyfeirnod-uchel â genoteip ymwrthedd i glefyd y crafu Grŵp 1 (ARR/ARR) sy’n cael eu defnyddio. Fel canlyniad i’r polisi hwn, mae diadell Llanarth bellach yn un o’r diadelloedd gorau o ran cyfeirnod ac ymwrthedd i glefyd y crafu yng Nghynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah

Yn 2002, dewiswyd hwrdd blwydd (LH:X41) o ddiadell Llanarth yn un o ddau hwrdd cyfeirnod ar gyfer y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod. Yn yr un flwyddyn, hefyd, cafodd pâr oŵyn benyw LH:X41 eu harddangos yng nghystadleuaeth garcas Ffair Aeaf Cymru a’u gosod yn ail yn eu dosbarth.

 

 
 

Classifieds

Beulah Yearling Ram

For use on smaller type ewes.

Auction at Aberystwyth University 13th August

Click here to see more adverts for Beulahs