Cynllun Grŵp Bridio Defaid Mynydd Cymru CAMP Sefydlwyd Cynllun Grŵp Bridio Defaid Mynydd Cymru CAMP gan bymtheg o ffermwyr mynydd yng Ngogledd Ceredigion yn 1991. Cyfrannodd pob un ugain o famogiaid cyfoen i’r ddiadell gnewyllol ganolog yn ADAS Pwllpeiran.
Prif nodau CAMP yw cael carcasau trymach â gwell cydffurfiad. Defnyddir Mynegrif Dewis Cymru ar gyfer y ddiadell. Yn ogystal, mae’r grŵp yn gweithio tuag at gael y ddiadell gyfan â genoteip ARR/ARR ar gyfer clefyd y crafu. Mae mesur trwch cyhyr llygad a braster wedi dod yn elfen bwysig o’r broses o ddewis a cheisio gwella’r carcas. Mae nodweddion brid ac addasrwydd hefyd yn bwysig wrth ddewis anifeiliaid cyfnewid. Caiff tua 15 o ŵyn hwrdd eu dewis bob blwyddyn, eu cadw dros y gaeaf a’u harchwilio ar gyfer y dewis terfynol yr hydref canlynol. Bydd dau neu dri’n cael eu defnyddio yn y ddiadell gnewyllol o 300 o famogiaid, a bydd y gweddill yn cael eu cynnig i aelodau yn eu tro. Dewisir yr ŵyn benyw o hanner uchaf y mynegrif yn unol â theip y brid a chydffurfiad. Cânt eu cneifio a’u hanfon i ffwrdd dros y gaeaf yn eu blwyddyn gyntaf. Cafwyd gwelliant genetig o 1kg yn y pwysau diddyfnu yn ystod y pum wyna cyntaf. Cynyddodd canran yr ŵyn yn nosbarth “R” o 29% yn 1992 i 53% yn 2003 Mae grŵp CAMP yn rhagweithiol iawn ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n faes profi ar gyfer sawl menter, gan gynnwys darparu hyrddod ar gyfer Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Mynydd Cymru. Genoteipio clefyd y crafu Roedd CAMP yn un o’r cynlluniau grwpiau bridio cyntaf i ymgymryd â genoteipio ar gyfer clefyd y crafu o dan Gynllun Strategaeth Defaid Cymru. Yn 2002, bu CAMP, ar y cyd â HCC trwy Cyswllt Ffermio, yn ymwneud â Rhaglen Trawsblannu Embryonau. Mae’r rhaglen yn defnyddio technegau Trawsblannu Embryonau Trwy Ofwliad Lluosol (MOET) er mwyn cynyddu nifer yr epil a fydd ag ymwrthedd i glefyd y crafu. Cafodd 10 o’r mamogiaid â genoteip ARR/ARR ar gyfer clefyd y crafu eu semenu â semen o hwrdd mynegrif-uchel â statws ARR/ARR ar gyfer clefyd y crafu. Casglwyd embryonau lluosol oddi wrth bob mamog a’u trawsblannu mewn mamogiaid â genoteipiau annymunadwy o ran clefyd y crafu.
|