Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Tregaron
Daeth aelodau grŵp bridio Defaid Mynydd Cymru Tregaron at ei gilydd yn ystod hydref 2001 ar ôl cymryd rhan yn y Cynllun Genoteipio Mamogiaid. Penderfynodd yr aelodau gydweithredu er mwyn ffurfio’r grŵp cyfeirnod hyrddod. Roedd y cofnodi a’r dadansoddi yn y flwyddyn gyntaf oddi mewn i’r ddiadell ac mae’n dal i fod yn gymhwyster i’r rhai sy’n gwneud cais i ymuno â’r grŵp. Prif amcan y grŵp y gwella maint, cyfradd twf ac ansawdd carcas y brid trwy wella cyhyredd a chydffurfiad heb golli teip a nodweddion hanfodol y brid i oroesi a ffynnu ar y mynyddoedd a’r tir uchel.
Dewiswyd hyrddod cyfeirnod gan yr aelodau, ar sail eu golwg, yn ystod hydref 2002 a chawsant eu defnyddio, trwy gyfrwng Semenu Artiffisial ar draws y diadelloedd. Yn ystod hydref 2003 dewiswyd yr hwrdd â’r cyfeirnod uchaf o’r flwyddyn flaenorol ynghyd â hwrdd newydd a gafodd ei ddewis ar sail ei olwg. Dim ond hyrddod o grŵp 1 yng ngenoteip Clefyd y Crafu sy’n cael eu cynnig wrth ddewis hyrddod cyfeirnod. Parthed cofnodi, defnyddir hyrddod potel ar gyfer 30 o famogiaid ac mae’r aelodau’n defnyddio eu hyrddod eu hunain ar gyfer o leiaf 30 arall er mwyn cynyddu nifer yr hyrddod sydd ar gael i’w dewis. Cofnodir yr ŵyn cyn gynted ag y bo modd ar ôl eu genedigaeth, cânt eu pwyso ddiwedd Mai a’u sganio ar gyfer trwch braster y cefn a thrwch y cyhyr llygad ym mis Awst. Am fod hyrddod wedi cael eu defnyddio ar draws y diadelloedd, caiff cofnodion eu dadansoddi a’u mynegrifo ar draws yr holl ddiadelloedd. Mae’r mynegrif yn rhestru’r anifeiliaid bridio a’r ŵyn yn ôl blaenoriaeth ac yn canolbwyntio ar wella ansawdd y carcas a rhinweddau mamol. Mae’r hyrddod yn cael eu defnyddio gyntaf yn flwydd oed a bydd yr hyrddod blwydd cyntaf â mynegrifau trawsddiadell ar gael i’w dewis gan aelodau o’r hydref hwn ymlaen. Byddant hefyd yn gallu dewis mamogiaid blwydd â mynegrifau i ailgyflenwi eu diadelloedd cnewyllol.
|