Brid Mynydd De Cymru Nelson Mae Brid Mynydd De Cymru Nelson yn cymryd rhan mewn rhaglen bositif i wella bridiau, sef y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod, lle cyfunir geneteg â galw’r bridwyr am deip brid.
Ers sawl blwyddyn bellach, mae nifer oaelodau’r Gymdeithas wedi bod yn cofnodieu diadelloedd ar gyfer ffactorau fel gwell CYFRADD TWF, RHINWEDDAU MAMOL ac ANSAWDD CARCAS.
Defnyddir y cofnodion hyn i greu rhaglensoffistigedig, er mwyn adnabod yr anifeiliaid gorau oll, wedi’u bridio fel y gall bridwyr gael y cynnyrch gorau heb wastraffu arian. Ar ôl cael eu hadnabod, bydd yr anifeiliaid yn cael eu harchwilio’n drylwyr gan yr aelodauar sail teip y brid a nodweddion corfforol. Wedyn gall yr hyrddod sydd o safon ddigon uchel gael eu derbyn fel hyrddod bridio oddi mewn i’r Cynllun Cyfeirnod Hyrddod a gellir eu rhannu ymhlith bridwyr cyfrannog, naill ai trwy semenu artiffisial neu drwy ddefnyddio hyrddod yn naturiol. (Yna gellir cymharu eu hepil ag epil rhai o’r hyrddod stoc a ddefnyddir gan yr aelodau yn eu diadelloedd eu hunain). (Trwy ddewis anifeiliaid uwchraddol bob blwyddyn, cyflymir gwelliannau genetig ac mae teip y brid a nodweddion corfforol yn cael eu cadw o hyd oherwydd y gyfundrefn archwilio). Seren y cynllun hyd yma yw’r hwrdd a werthwyd am y pris uchaf erioed, sef hwrdd rhif Z97, a fagwyd gan Mike a Catherine Roberts, Penrhiwgwaith, Coed-duon, ac a werthwyd i Dilwyn John am £3,200 yn arwerthiant y brid ym Mhenderyn. Hwn oedd yr hwrdd stoc gorau yn y grŵp gyda mynegrif o 175 pwynt. Bydd ei epil, â manteision ei gofnodion uwchraddol, yn mynd ymlaen i barhau’r gwelliant mewn diadelloedd eraill ledled y brid. Trwy ddefnyddio’r Cynllun Cyfeirnod Hyrddod, bydd Brid Mynydd De Cymru Nelson yn aros ysgwydd wrth ysgwydd â bridiau eraill.
|