Defaid Mynydd Penwyn Llanymddyfri Sefydlwyd Cymdeithas Defaid Mynydd Penwyn Llanymddyfri ym mis Chwefror 1998 pan ddaeth 34 o ffermwyr at ei gilydd gyda’r nod o wella a hyrwyddo’r brid.
Mae mamog Benwyn Llanymddyfri’n famog galed â rhinweddau mamol penigamp a chanran wyna o fwy na 150%. Mae’n cynhyrchu ŵyn gwryw â chydffurfiad carcas da, a bydd yr ŵyn benyw’n cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid neu’n cael eu gwerthu fel ŵyn benyw bridio yn arwerthiannau’r hydref yn Llanymddyfri. Mae yna alw mawr am y mamogiaid yn Arwerthiant Llanymddyfri. Cânt eu prynu i’w croesi â hyrddod yr iseldir a hyrddod hirwlanog i gynhyrchu ŵyn benyw HannerBrid Cymreig a Miwl. Sylweddolodd aelodau’r Gymdeithas bwysigrwydd Profion Clefyd y Crafu a chafodd hyrddod wedi’u profi eu gwerthu yn Arwerthiant Hyrddod y Gymdeithas ers 1998. Erbyn heddiw rydym mewn sefyllfa ragorol, ac mae’r rhan fwyaf o’r ŵyn yn cael eu dosbarthu yng Ngrwpiau 1 a 2. Yn 2002, penderfynwyd gwella cynnydd y brid fwyfwy trwy gadw cofnodion Semenu Artiffisial a pherfformiad. Cafodd dau hwrdd eu dewis gan yr aelodau – dim ond hyrddod ARR / ARR a gynigwyd ar gyfer y dewis, ac roedd gan bob aelod yr hawl i roi hwrdd potel i 30 o famogiaid. Mae’r ŵyn yn cael eu pwyso yn 8 wythnos oed, yna’n cael eu pwyso a’u sganio ag uwchsain ar gyfer trwch cyhyrau a braster yn 21 wythnos oed. Un o nodau’r Gymdeithas ar gyfer y dyfodol yw adnabod hyrddod bridio cyfeirnod posibl o blith diadelloedd cofnodedig a gwerthu ŵyn hwrdd blwydd â chyfeirnod uchel yn ein Harwerthiant Hyrddod yn yr hydref. Bydd yr hyrddod hyn yn cynhyrchu ŵyn a fydd yn diwallu anghenion y farchnad yn well, ac eto’n cadw nodweddion a rhinweddau mamol y brid.
|