Cynllun Grŵp Bridio Hafod-y-Llan Hwn yw’r grŵp diweddaraf o fridwyr defaid Mynydd Cymru i ddod at ei gilydd i ffurfio cynllun grŵp bridio; ar hyn o bryd mae’r grŵp yn ei ail flwyddyn. Mae gan bob un o’r pum aelod ddiadelloedd mawr yn pori ar yr Wyddfa, ac felly mae’n hanfodol cadw’r caledwch yn y brid. Hefyd, nid oes croeso i efeilliaid yn yr amgylchedd hwn. Prif amcan y grŵp yw gwella ansawdd y carcas – er bod angen rhywfaint o fraster er mwyn i’r anifeiliaid allu goroesi mewn hinsawdd mor arw. Cafodd yr holl famogiaid a ddewiswyd yn wreiddiol ar gyfer y diadelloedd cnewyllol eu profi ar gyfer clefyd y crafu ac mae’r aelodau’n dymuno gwella’r ymwrthedd i glefyd y crafu yn eu diadelloedd trwy ddefnyddio hyrddod grŵp 1 yn unig yn hyrddod cyfeirnod.
Dewisodd yr aelodau ddau hwrdd, ar sail eu golwg, i’w defnyddio’n hyrddod cyfernod yn ystod yr hydref cyntaf. Ar gyfer yr ail hydref, cafodd yr hwrdd â’r mynegrif uchaf o’r flwyddyn gyntaf ei ddefnyddio eto ynghyd â hwrdd newydd, eto wedi’i ddewis ar sail ei olwg. Defnyddir yr hyrddod cyfeirnod i baru’n naturiol, gyda bridwyr yn dod â rhwng deg a phymtheg o famogiaid ar gyfer pob hwrdd dros gyfnod o oddeutu tair wythnos. Cofnodir yr ŵyn cyn gynted ag y modd ar ôl eu geni, cânt eu pwyso ddiwedd Mehefin a’u sganio ar gyfer braster y cefn a thrwch cyhyr llygad ym mis Medi. Hefyd, mae’r bridwyr yn cofnodi’r un nifer oŵyn o bob un o’u hyrddod eu hunain – mae hyn yn cynyddu maint y gronfa o hyrddod ac wˆ yn sydd ar gael ar gyfer y dewis. Mae’r mynegrif a ddefnyddir i restru’r ŵyn a’r anifeiliaid llawndwf yn ôl eu blaenoriaeth yn canolbwyntio ar wella ansawdd y carcas a rhinweddau mamol. Yn unol â’r arfer gyffredin mewn diadelloedd mynydd yng Nghymru, caiff yr hyrddod eu defnyddio am y tro cyntaf yn flwyddiaid, a bydd yr hyrddod blwydd cyntaf â mynegrifau ar gael i’w dewis yn hyrddod cyfeirnod yr hydref hwn. Bydd mamogiaid blwydd â mynegrifau ar gael, hefyd, er mwyn ailgyflenwi’r diadelloedd cnewyllol.
|