Grŵp Cwm Elan a Chwmdauddwr
Ffurfiwyd Grŵp Hyrddod Cwm Elan a Cwmdauddwr yn 1994.
I ddechrau, bu ffermwyr yn anfon ŵyn hwrdd i ffwrdd er mwyn profi eu perfformiad a cheisio gwella ansawdd yr hyrddod a oedd yn cael eu defnyddio yn y diadelloedd hirsefydlog, gan ddewis yr hyrddod gorau o ran teip a pherfformiad i’w defnyddio yn niadelloedd y grŵp.
Yn fuan, dechreuodd y grŵp gofnodi trwy gynllun Cyfeirnod Hyrddod er mwyn hybu ei waith: Dewisodd y bridwyr, ar sail teip a pherfformiad, ddiadell gnewyllol o tua 60 o famogiaid, yn ganolbwynt i’w cofnodi. Mae dau o’r hyrddod a wnaeth orau yn y profion perfformiad yn cael eu rhoi gyda 30 mamog o bob un o’r diadelloedd cnewyllol. Mae’r hyrddod yn cael eu rhannu o wirfodd gan eu perchnogion, sydd wedi manteisio’n wirioneddol ar fridio cydweithredol; bu o gymorth i wella ansawdd a marchnata eu hŷn. Mae defnyddio’r hyrddod cyfeirnod hyn yn golygu y gellir cymharu’r holl ddiadelloedd yn uniongyrchol, a chofnodi’r holl anifeiliaid fel rhan o’r un Cynllun Cyfeirnod Hyrddod. Mae’r hyrddod stoc yn cael eu dewis o blith y diadelloedd cnewyllol. Bu’r holl ddiadelloedd yn cymryd rhan yng Nghynllun Genoteipio Mamogiaid Cymru, ac maent yn aelodau o Gynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu. Mae’r grŵp wedi bod yn profi eu defaid ers 1996 i weld pa mor agored ydynt i Glefyd y Crafu. Ar ôl dewis defaid am sawl blwyddyn ar sail genoteip Clefyd y Crafu, ffigurau perfformiad a theip, bu modd gwella’r diadelloedd yn gyffredinol. Dim ond hyrddod ARR/ARR sy’n cael eu cynnig ar ddiwrnod dewis hyrddod. Prif nod y grŵp yw cynhyrchu anifeiliaid bridio o ansawdd uchel sy’n addas i’w croesi â hyrddod terfynol, ac sydd hefyd yn ddigon caled i allu byw ar y mynydd. Trwy dargedu’r gwaith o wella, maent yn llwyddo i gynhyrchu ŵyn trymach a fydd yn goroesi a ffynnu ar y mynydd.
|