CAMDA Mae CAMDA yn grŵp bridio cydweithredol ar gyfer Defaid Mynydd Cymru. Mae ganddo chwe aelod a diadell gnewyllol yng Nghernioge Bach, Pentrefoelas. Amcan bridio’r grŵp yw cynhyrchu mamogiaid ychydig yn drymach sy’n wyna’n rhwydd ac sy’n magu ŵyn trymach ar y mynydd.
Sefydlwyd y grŵp yn 1976 i fod y cynllun grŵp bridio cyntaf yn y DG. Mae’r aelodau’n ffermwyr tir uchel â diadelloedd mynydd sy’n pori ar gynefinoedd a ffriddoedd heb eu gwella. Yn sylfaen i’r cynllun hwn oedd sefydlu diadell gnewyllol a fyddai’n darparu hyrddod uwchraddol ar gyfer yr aelodau a’r arwerthiant. Sefydlwyd y ddiadell gnewyllol dros gyfnod o dair blynedd trwy ddewis y mamogiaid gorau o ddiadelloedd yr aelodau yn seiliedig ar eu mynegrif. Erbyn 1978 roedd gan y ddiadell 400 o famogiaid bridio yn seiliedig ar 40 o famogiaid yr aelod. Mae CAMDA yn dal i fod ar flaen y datblygiadau mewn bridio defaid. Cyflwynodd dechnegau modern i’w raglen fridio yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys sganio uwchsain a thrawsblannu embryonau. Dewisir anifeiliaid cyfnewid trwy gofnodi â mynegrif aml-nodwedd sy’n seiliedig ar dwf yr ŵyn (60%), maint llawn-dwf (15%), rhinweddau mamol (24%) a maint y dorllwyth (1%). Mae dadansoddi wedi dangos fod y cynnydd genetig ar gyfer y pwysau diddyfnu wedi gwella fesul 145g y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae tua 117g y flwyddyn yn deillio’n uniongyrchol o ŵyn yn tyfu’n well a 28g y flwyddyn o welliannau mewn rhinweddau mamol.
|