Grŵp Cyfeirnod Hyrddod Mynydd Penfrith Cymru

Sefydlwyd y Grŵp Cyfeirnod Hyrddod yn 1999

Welsh Hill Speckle FaceTrwy roi nifer o famogiaid o bob diadell gyda’r un hwrdd – “hyrddod cyfeirnod” – gellir cymharu perfformiad yr ŵyn ym mhob un o ddiadelloedd yr aelodau.

Nodau’r Cynllun Cyfeirnod Hyrddod

• Gwella ansawdd y carcas
• Cynyddu pwysau’r ŵyn adeg eu diddyfnu
• Genoteipio ar gyfer Clefyd y Crafu
• Cadw caledwch a theip y brid
• Ymwrthedd i barasitiaid
Cymerir samplau ysgarthol oddi wrth yr ŵyn er mwyn gallu defnyddio’r wybodaeth am ymwrthedd i barasitiaid i gynhyrchu Gwerth Bridio Tybiedig ar sail y cyfrif wyau.
Y bwriad yw y bydd bridwyr wedyn yn gallu dewis anifeiliaid sydd yn naturiol â gwell ymwrthedd i lyngyr.
Mae’r Gwerth Bridio Tybiedig hwn ar wahân i Fynegrif Mynydd Cymru, ac nid yw’n cael ei gynnwys ynddo.

Sefydlwyd Diadell Brawf ym
Mhwllpeiran yn 2002
Nodau’r Ddiadell Brawf

• Rhoi cyfle i gynnal profion ar gyfer
hyrddod cyfeirnod posibl
• Defnyddir ŵyn hwrdd Grŵp Clefyd y
Crafu 1 â Mynegrif Uchel
• Gwerthuso’r epil
• Cyflymu’r cynnydd genetig