Prosiect Bridio Defaid Antur Texel

Texel BreedSefydlwyd diadell Texel Antur yn 1988 fel diadell ymchwil ar gyfer gwerthuso technolegau bridio newydd.

I ddechrau, bu’n ymwneud â datblygu a gwerthuso’r Mynegrif Cig Coch oddi mewn i’r brid Texel, ac roedd yn aelod cychwynnol o Gynllun Cyfeirnod Hyrddod Texel Elit. Oddi ar hynny, mae’r dewis wedi canolbwyntio ar ddefnyddio’r Mynegrif Cig Coch i wella cyfradd twf a chyfansoddiad y carcas, ac yn 2001 roedd diadell Antur ar y brig ymhlith 70 o ddiadelloedd y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod o ran cyfeirnod diadell. Mae’r ddiadell wedi cyfranogi yn natblygiad sganio TG corff-cyfan, ar y cyd â Choleg Amaethyddol yr Alban, er mwyn bod yn fwy cywir wrth amcangyfrif cyfansoddiad y carcas a chyhyredd yr anifail byw.

Ynghyd ag aelodau eraill o’r Cynllun Cyfeirnod Hyrddod, mae wedi defnyddio sganio TG ymhlith ŵyn hwrdd â photensial mynegrif-uchel i wella cywirdeb Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBV) ar gyfer trwch cyhyrau a braster, ac, o 2003, i gynhyrchu EBV ar gyfer cyhyredd; mae hyn yn rhoi sgôr gwrthrychol ar gyfer cydffurfiad am y tro cyntaf.

Ynghyd â bridwyr pedigri eraill, mae’r ddiadell wedi gorfod bridio ar gyfer ymwrthedd i glefyd y crafu. Cafodd yr holl ddiadell eu genoteipio ar gyfer clefyd y crafu yn 2001 fel rhan o Gynllun Genoteipio Mamogiaid Cymru (WEGS 1), a chafodd ei chofrestru wedyn gyda Chynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu a WEGS 2. Ers hynny, dim ond hyrddod Grŵp 1 o ran ymwrthedd i glefyd y crafu (ARR/ARR) sy’n cael eu defnyddio, ac yn raddol mae’r proffil genoteipio’n symud o fwyafrif o famogiaid grŵp 3 yn 2001 i fwyafrif o famogiaid grŵp 2 yn 2004. Yn 2002, cafwyd llwyddiant wrth drawsblannu embryonau ymhlith y 5 mamog yng ngrŵp 1 wrth geisio gwella cyfran y genoteipiau ARR/ARR, a bydd epil y mamogiaid hyn yn wyna am y tro cyntaf yn 2005.

Hefyd, mae’r ddiadell wedi bod yn ymwneud â chynhyrchu Gwerthoedd Bridio Tybiedig ar gyfer Cyfrifiadau Wyau Ysgarthol (FEC EBV). Mae hyn yn golygu y gellir adnabod anifeiliaid unigol sydd â gwell ymwrthedd i lyngyr main. Mewn gwirionedd, mae’n gyfrwng arall i’w ddefnyddio wrth ddewis anifeiliaid cyfnewid. Mae’n ddefnyddiol iawn wrth werthu hyrddod i gynhyrchwyr organig oherwydd mae’n eu helpu i adnabod yr hwrdd mwyaf defnyddiol ar gyfer eu anghenion.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae diadell Texel Antur wedi cymryd rhan yn y prosiect ymchwil mapio genomau yn Sefydliad Roslin. Adnabuwyd nodwyr genetig ar gyfer locysau nodweddion meintiol (QTL) cyhyredd, a bu epil ein hwrdd stoc, Callerton Glenlivet, yn chwarae rhan bwysig yn yr ymchwil hwn.

DEFAID ANTUR TEXEL: Diadell Mynegrif-Uchel wedi’i dewis ar sail perfformiad, cydffurfiad a theip y brid.
Hyrddod Stoc:
Callerton Glenlivet. SRC 00035 (ARR/ARR)

• Gwerthoedd Bridio Tybiedig: Pwysau sganio + 10.09 kg; Trwch cyhyrau + 5.08 mm; Trwch braster -0.49 mm; Mynegrif Cig Coch 331

Goldies Juggernaut GJG 03021 (ARR/ARR)

• Gwerthoedd Bridio Tybiedig: Pwysau sganio + 7.52 kg; Trwch cyhyrau + 3.42 mm; Trwch braster -0.64 mm; Mynegrif Cig Coch 264