Grŵp Llywio Llŷn

LleynSefydlwyd Grŵp Llywio Llŷn ym mis Hydref 2001 gan bedwar o fridwyr defaid Llŷn. Y prif nod oedd gallu gwella’u diadelloedd hirsefydlog, Y prif resymau dros sefydlu’r grŵp oedd y cyfle i gael cynifer o ddefaid â phosibl wedi’u cofnodi ar gyfer Gwerthoedd Bridio Tybiedig a mynediad i raglen Semenu Artiffisial gan ddefnyddio hyrddod mynegrifuchel.

I ddechrau, dewisodd pob aelod 100 o famogiaid i’w cofnodi. Roedd y rhain yn cynnwys 30 a gafodd hwrdd potel yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan ddefnyddio hwrdd o un ddiadell, a oedd â nodweddion gorau brid Llŷn. Mae’r hwrdd cyfeirnod hwn yn galluogi gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng yr holl ddiadelloedd, gan ganiatáu i’w holl stoc gael eu cofnodi oddi mewn i’r un Cynllun Cyfeirnod Hyrddod. Bellach, mae’r aelodau’n cofnodi tua 1060 o famogiaid yng Nghynllun Cyfeirnod Hyrddod Llywio Llŷyn.

Prif amcanion y grŵp yw canolbwyntio ar gynhyrchu carcasau â chydffurfiad da a chadw maint y dorllwyth. Mae mamog Llŷn yn epilgar; bydd yn cynhyrchu gefeilliaid yn gyson, mae ganddi rinweddau mamol rhagorol, ac mae’r ŵyn newydd-anedig yn llawn egni. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd diddordeb cynyddol ledled y DG yn y brid, gyda nifer fawr o ddefaid yng ngwerthiannau’r brid yn mynd i fridwyr purlinach a masnachol.

Oddi ar ffurfio’r grŵp, mae gan bob aelod gofnodion blynyddol ar gyfer ei ddiadell. Cofnodir pwysau yn 8 wythnos oed, a chofnodir pwysau a chanlyniadau sganio uwchsain yn 21 wythnos oed. Bu holl ddiadelloedd y grŵp yn cymryd rhan yng Nghynllun Genoteipio Mamogiaid Cymru, ac maent yn aelodau o Gynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu. Dim ond hyrddod ARR/ARR sy’n cael eu cynnig ar y diwrnod dewis hyrddod.

Hefyd, mae gan aelodau’r grŵp gyfle i gyfrifo Gwerthoedd Bridio Tybiedig ar gyfer ymwrthedd i lyngyr trwy gyflwyno samplau ysgarthol er mwyn cyfrif wyau llyngyr.

Beth am ddyfodol y grŵp? Ein nod yw dal i gofnodi ein diadelloedd a monitro ein rhaglen fridio yn drylwyr fel y gallwn gynhyrchu stoc bridio o’r ansawdd gorau a charcasau sy’n diwallu gofynion y farchnad heddiw. Mae’r Grŵp yn bwriadu ehangu a byddai’n croesawu ymholiadau gan bobl â diddordeb mewn ymaelodi.