Grŵp Bridio Defaid Cheviot y Gogledd yng Nghymru

North Country CheviotsGrŵp Bridio Defaid Cheviot Gogledd Lloegr Cymreig. Sefydlwyd y grŵp yn 1999 gan bump o fridwyr yn Ne a Gorllewin Cymru gyda’r nod o ddefnyddio technegau bridio modern i wella cynhyrchedd heb golli rhagoriaethau’r brîd.

Cheviot Gogledd Lloegr fel brid purlinach

Y mwyaf o blith y bridiau mynydd, gan gyfuno twf ac iechyd ag epilgarwch a rhinweddau mamol cryf
Wyna hawdd
Cnu o ansawdd
Yn cynhyrchu carcas o ansawdd, gan osgoi gormod o fraster a chynnal cydffurfiad o ddiwedd yr haf tan ddechrau’r gwanwyn
Gyda hwrdd terfynol, ŵyn o’r ansawdd gorau yn cael eu cynhyrchu

Cheviot Gogledd Lloegr fel hwrdd croesi

Mae’r hyrddod wedi profi’n gyson eu bod yn llwyddiannus fel hyrddod croesi
Mae yna alw cyson am ddefaid benyw croesfrid
Mae ŵyn gwryw croesfrid yn gallu bod yn drwm iawn heb fod yn or-dew
Mae’r brid yn cyfuno nodweddion gorau’r hwrdd a’r famog – mwy o faint, ymnerth hybrid a gwydnwch gan yr hwrdd a rhinweddau mamol a llaethogrwydd gan y famog.

Defaid Cheviot Gogledd Lloegr Cofnodedig

Bydd dewis anifeiliaid â mynegrifau uwch yn golygu;
• Gwell nodweddion carcas trwy wella trwch y cyhyrau heb ormod o fraster
• Cyfraddau twf cyflymach – ac felly llai o amser pesgi
• Y famog yn cadw’i rhinweddau mamol i gynhyrchu gwell epil