Defaid Mynydd Cheviots Brycheiniog

Brecknock Hill CheviotsMae Defaid Mynydd Cheviot Brycheiniog wedi datblygu o Ddefaid Cheviot De’r Alban a gafodd eu cyflwyno i Frycheiniog yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.

Mae’r math yma o Cheviot yn ddigon caled i ffynnu ar y bryniau agored, ac mae’r defaid yn cael eu cadw ar gyfer bridio purlinach y ogystal â chroesfridio. Bydd y mamogiaid purlinach a chroesfrid yn cynhyrchu ŵyn cig o’r safon gorau sy’n diwallu gofynion y farchnad yn gyson â charcasau dosbarth ‘R’ neu well.

Mae Cymdeithas Defaid Mynydd Cheviot Brycheiniog yn un o arloeswyr Profion Gwaed Clefyd y Crafu ac mae’r safon uchel a bennwyd gan y gymdeithas yn ystod y saith mlynedd diwethaf wedi golygu fod yr holl hyrddod â’r genyn ‘V’ wedi cael eu lladd.

Hefyd, bu grŵp o’r aelodau’n cymryd rhan mewn Rhaglen Gofnodi ac mae ganddynt fynediad i Raglen Semenu Artiffisial.

Ers ffurfio’r grŵp, mae pob aelod wedi cofnodi ei ddiadell. Cofnodir pwysau a chofnodir canlyniadau sganio uwchsain ar gyfer trwch cyhyrau a braster yn 21 wythnos oed.

Ar gyfartaledd, mae epilgarwch diadell fynydd yn 90-120% mewn cymhariaeth â 130-150% ar gyfer diadelloedd tir uchel a 160-180% ar gyfer diadelloedd tir isel.