Cynllun Grŵp Bridio Defaid Border Leicester Glynllifon Cyf. Sefydlwyd y Grŵp yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Glynllifon, Caernarfon, yn 1960 pan gafwyd rhodd o 35 o famogiaid cyfoen gan fridwyr defaid Border Leicester yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ar hyn o bryd mae’r ddiadell yn cynnwys 50 o famogiaid.
Pwrpas y Grŵp yw gwella datblygiad genetig, a fydd o fantais i fridwyr defaid Border Leicester, trwy eu helpu i gynhyrchu gwell hyrddod bridio ar gyfer mamogiaid Hanner-brid ac ychwanegu manteision masnachol at y brid yn gyffredinol. Yn ychwanegol, gall diadell Glynllifon weithredu rhaglenni datblygu sy’n annhebygol o gael eu gweithredu gan fridwyr unigol yn eu diadelloedd eu hunain. Mae’r Grŵp wedi ymchwilio i ansawdd llaeth mewn perthynas â pherfformiad yr ŵyn, wedi ymgymryd ag arbrawf ar raddfa fach gan ddefnyddio defaid Border Leicester Awstralia a hefyd wedi trawsblannu embryonau. Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp yn canolbwyntio ar faterion etifeddol megis problemau llygaid, llaethogrwydd a thwf. Mae’r ddiadell yn achrededig o ran Maedi Visna, a chafodd ei genoteipio gogyfer ag ymwrthod clefyd y crafu. Yn ogystal, mae’r Grŵp yn aelod o Gynllun Cyfeirnod Hyrddod Border Leicester a gyflwynwyd yn 1997. Bydd y Cynllun yn golygu fod bridwyr yn medru defnyddio hyrddod o deilyngdod genetig gwybyddus oddi mewn i’r brid; bu hyn yn faen tramgwydd yn y gorffennol wrth ddethol hyrddod magu o’r tu allan i’r ddiadell gnewyllol. Bellach mae’r mynegai dethol yn gosod pwyslais trwm ar rinweddau mamol a maint torllwyth, ynghyd â sganio wltrasonig ar gyfer gwelliant carcas. Hyd yma cafodd ŵyn benyw cyfnewid eu dethol ar sail cyfuniad o’r mynegai mamol a’r Mynegai Cig Coch, sy’n ystyried cyfradd twf a mesuriadau wltrasonig o ddyfnder cyhyr llygad a braster. Dim ond anifeiliaid sy’n unffurf â theip y brid ac sydd â chydffurfiad da sy’n cael eu cadw ar gyfer bridio. Gwerthir ŵyn hyrddod a hyrddod blwydd yn arwerthiant y Gymdeithas yn Llanfair-ym- Muallt neu’n breifat ar y ffarm. Staff Glynllifon sy’n gofalu am y ddiadell o ddydd i ddydd, ond caiff ei rhedeg gan grŵp rheoli o fridwyr Border Leicester ac ymgynghorwyr. Ers iddi gael ei sefydlu yn 1990, cafodd ei datblygu ar linellau traddodiadol yn ogystal â rhai gwyddonol.
|