Diadell Wyneblas Caerlŷr Penglas Cafodd brid Wyneblas Caerlŷr ei ddatblygu dros 200 mlynedd diwethaf, a hyrddod y brid yw’r hyrddod croesi hirwlanog mwyaf poblogaidd yn y DG. Mae’r rhan fwyaf o’r mamogiaid croesfrid mewn diadelloedd tir isel yn ddefaid Miwl, sef epil hyrddod Wyneblas Caerlŷr. Yn draddodiadol, câi’r brid ei groesi â mamogiaid Swaledale i gynhyrchu defaid Miwl Gogledd Lloegr, ond erbyn hyn caiff ei ddefnyddio ar nifer o fridiau mynydd i gynhyrchu mamog groesfrid sy’n etifeddu epilgarwch a llaethogrwydd.
Yn y gorffennol, roedd teip y brid yn hollbwysig ym meddyliau bridwyr Wyneblas Caerlŷr a Miwl, ond yn ystod y deng mlynedd diwethaf rhoddwyd mwy o sylw i’r angen am wella ansawdd y carcas heb golli epilgarwch a rhinweddau mamol. Er nad yw Wyneblas Caerlŷr yn cael ei gydnabod yn gyffredinol yn frid carcas, mae ganddo ddylanwad pwysig ar ansawdd carcas yn niwydiant defaid y DG oherwydd hyrddod o’r brid yw tadau’r mamogiaid Miwl sy’n asgwrn cefn i’r sector tir isel. Gyda chefnogaeth gref gan Gymdeithas y brid, arweiniodd y newid pwyslais hwn at sefydlu diadell Datblygu Brid Wyneblas Caerlŷr Penglas yn Aberystwyth yn 1990, diadell a oedd yn cael ei chofnodi’n llawn ar sail perfformiad. Erbyn hyn mae’r ddiadell yn cynnwys 50 o famogiaid bridio a 15 o ddilynwyr. Cafodd y ddiadell gyfan ei genoteipio yn 2001 fel rhan o WEGS 1, ac ers hynny cafodd yr holl ŵyn eu genoteipio fel rhan o Gynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu. Mae’r cynllun yn rhan annatod o’r prosiect Hirwlanog sy’n cael ei gyllido gan Defra a’r Comisiwn Cig a Da Byw. Y nod yw darparu mynegrif genetig yn benodol ar gyfer y brid fel y gellir gwella ansawdd y carcas heb amharu ar nodweddion mamol a theip y brid. Yn 2000 bu’r ddiadell yn cystadlu am y tro cyntaf yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a llwyddo i ennill pencampwriaeth y brid gyda mamog flwydd a oedd ag un o fynegrifau uchaf y ddiadell. Yn 2002 enillodd pâr o ŵyn benyw mynegrif-uchel y wobr gyntaf yn eu dosbarth carcas yn Ffair Aeaf Cymru. Enillodd pâr arall o ŵyn benyw yr ail wobr yn Ffair Aeaf 2003. Mae’r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu llwyddiant y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod ac yn tanlinellu’r manteision o ddewis ar sail Gwerthoedd Bridio Tybiedig er mwyn gwella nodweddion carcas mewn defaid. Maent hefyd yn dangos beth ellir ei gyflawni heb golli teip y brid nac ymwrthedd i glefyd y crafu. Mae’r rhan fwyaf o’r hyrddod blwydd yn cael eu gwerthu yn ail arwerthiant hyrddod blynyddol y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol ym mis Medi. Cafodd ein prif hwrdd stoc (1183:P033) ei ddefnyddio fel hwrdd cyfeirnod oddi mewn i’r Cynllun Cyfeirnod Hyrddod ac mae o ansawdd uchel dros ben. Dyma’r hwrdd cyfeirnod gorau yn y Cynllun. Enillodd ei statws ‘Elit’ yn 2003, a chafodd ei ddefnyddio’n helaeth trwy gyfrwng semenu artiffisial gan fridwyr ledled y wlad. Mae’n cynhyrchu ŵyn cryf o deip da yn gyson.
|