Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah
Sefydlwyd Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah yn 1979 gan grŵp o ffermwyr Cymreig blaengar a gyflenwodd 100 o famogiaid sylfaen dwyflwydd a theirblwydd oed o’r ansawdd gorau i fod yn ddiadell gnewyllol ganolog i Gynllun Grŵp Bridio Defaid Penfrith Beulah. Cafodd cofnodi perfformiad a gwelliannau genetig eu canolbwyntio yn y ddiadell gnewyllol ganolog gaeedig, gyda’r bwriad o gyflenwi hyrddod â rhinweddau genetig uchel yn ôl i’r diadelloedd cyfrannog. Erbyn hyn mae’r ddiadell yn gyson yn cynnwys 120 o famogiaid bridio ynghyd â 35 o ŵyn benyw cyfnewid.
Bu modd cael ffyrdd eraill o gyflawni gwelliannau genetig mewn diadelloedd cyfrannog oherwydd datblygiadau diweddar mewn gwerthusiadau genetig gan ddefnyddio BLUP, a chyfeirnodi hyrddod yn enwedig. Felly, sefydlwyd Cynllun Cyfeirnod Hyrddod ar gyfer y brid Beulah yn 1996. Roedd diadell Llanarth yn aelod cychwynnol a chyflenwodd y ddau hwrdd cyfeirnod-uchel cyntaf ar gyfer y cynllun. Defnyddir Cyfeirnod Mynydd Cymru yn sail ar gyfer y dewis; mae hwn yn gyfeirnod sy’n cydbwyso rhinweddau mamol â gwelliannau twf a nodweddion carcas. Ar yr un pryd, cymerir gofal mawr i gadw teip y brid. Ers ei sefydlu, mae aelodau Cynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah wedi gwneud mwy o gynnydd o ran gwella rhinweddau genetig eu defaid nag unrhyw frid arall yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn trwy lynu wrth yr egwyddorion pwysig o ddewis hyrddod cyfnewid yn bennaf ar sail cyfeirnod, ond eto gan wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod yn deip brid da. Dros sawl blwyddyn, cafodd yr holl hyrddod cyfeirnod eu genoteipio ar gyfer clefyd y crafu er mwyn gofalu fod ganddynt ymwrthedd i glefyd y crafu a chafodd hyn ei ymestyn i famogiaid bridio yn 2001 fel rhan o Gynllun Genoteipio Mamogiaid Cymru (WEGS 1). Dim ond y genoteipiau â’r ymwrthedd gorau (Grwpiau 1 a 2) a gafodd eu cadw ar gyfer bridio, ac erbyn hyn mae’r ddiadell yn aelod hefyd o WEGS 2 a Chynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu. Mae’r ddiadell yn dal i chwarae rhan bwysig yn y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod oherwydd fe’i defnyddir ar gyfer profion epil ar 6 oen hwrdd cyfeirnod-uchel wedi’u dewis o ddiadelloedd yr aelodau fel hyrddod bridio posibl ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Felly, mae gan y ddau hwrdd cyfeirnod a ddewisir yn y pen draw o’r gronfa hon ddata epil ar gael i wneud eu gwerthusiad genetig yn fwy cywir, ac felly yn cyflymu cyfraddau twf genetig yn niadelloedd yr aelodau. Dim ond hyrddod cyfeirnod-uchel â genoteip ymwrthedd i glefyd y crafu Grŵp 1 (ARR/ARR) sy’n cael eu defnyddio. Fel canlyniad i’r polisi hwn, mae diadell Llanarth bellach yn un o’r diadelloedd gorau o ran cyfeirnod ac ymwrthedd i glefyd y crafu yng Nghynllun Cyfeirnod Hyrddod Penfrith Beulah Yn 2002, dewiswyd hwrdd blwydd (LH:X41) o ddiadell Llanarth yn un o ddau hwrdd cyfeirnod ar gyfer y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod. Yn yr un flwyddyn, hefyd, cafodd pâr oŵyn benyw LH:X41 eu harddangos yng nghystadleuaeth garcas Ffair Aeaf Cymru a’u gosod yn ail yn eu dosbarth.
|